CRICCIPEDIA
Mathew Rhys Patchell
chwaraewr rygbi o CRICC a Chymru
Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru yw Mathew Rhys Patchell (ganed 17 May 1993). Mae yn chwarae fel maswr fel arfer, ond gall hefyd chwarae fel cefnwr. Mae yn ciciwr o fry
​
CRICCIPEDIA
Jamie Roberts
Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymro yw Jamie Roberts (ganed 8 Tachwedd 1986). Roedd yn chwarae fel canolwr fel arfer, ond gall hefyd chwarae fel cefnwr ac asgellwr.
Ganed ef yng Nghasnewydd, ac addysgwyd ef yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Yn 2013, graddiodd Jamie Roberts mewn meddygaeth o Brifysgol Caerdydd.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru fel asgellwr yn erbyn yr Alban yn Stadiwm y Mileniwm ar 9 Chwefror 2008. Yn ddiweddarach, symudwyd ef i chwarae fel canolwr, ac yn y safle yma dyfarnwyd ef yn chwaraewr gorau'r gêm rhwng Cymru a'r Alban ar 8 Chwefror 2009. Enillodd 94 o gapiau dros Gymru rhwng 2008 a 2017 a 3 dros Y Llewod ar eu teithiau yn 2009 a 2013.
O 2005 ymlaen, chwaraeodd Roberts dros Glwb Rygbi Caerdydd, Gleision Caerdydd, Racing Métro, Prifysgol Caergrawnt, Harlequins, Caerfaddon, y Stormers a'r Dreigiau a'r Waratahs yn Awstralia. Cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi proffesiynol yn Gorffennaf 2022.
​
CRICCIPEDIA
Chwaraewr rygbi'r undeb yw Ioan Lloyd (ganwyd 5 Ebrill 2001) sy'n chwarae i Bristol Bears. Ei safle arferol yw maswr. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Caerfaddon yng ngêm gyntaf tymor 2019-2020 a sgoriodd ddau gais yn ei ddau berfformiad cyntaf.
Gyrfa
Enillodd Lloyd Darian Dewar 2015 gydag Ysgolion Caerdydd cyn ymuno â Gleision Caerdydd. Symudodd wedyn i Loegr, gan ymuno â Choleg Clifton a chafodd ei dorri i fyny yn gyflym gan Fryste. Mae wedi chwarae rygbi rhyngwladol, gan gynrychioli Cymru dan 18 yng Ngŵyl y Chwe Gwlad 2019.
Ar 6 Hydref 2020 cafodd ei enwi yng ngharfan hÅ·n Cymru ar gyfer Cwpan Cenhedloedd yr Hydref 2020. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ar 18 Tachwedd 2020 fel eilydd yn yr ail hanner gyda buddugoliaeth 18-0 yn erbyn Georgia
​
​